fbpx

Welsh Water launches free and confidential pesticide disposal

Welsh Water launches free and confidential pesticide disposal scheme to protect drinking water quality

  • Free pesticide disposal scheme for farmers, growers and land managers across Wales
  • Confidential scheme by Welsh Water safeguards drinking water quality before water reaches treatment works 
  • Registration open until 30th September 2019 with participation on first come, first served basis 

Welsh Water has opened a registration window for farmers, growers and land managers in Wales to dispose of any unwanted pesticides and herbicides as part of their free and confidential PestSmart project.

PestSmart encourages people across Wales to consider ‘smarter’ ways of weed, pest and disease control that do not impact on people, water or wildlife. 

Ian Christie, Managing Director of Water Services at Welsh Water, explains: 

“Our routine raw water monitoring programme has detected increasing traces of pesticides in areas we have never seen them before. While these levels are too low to pose a risk to those drinking the water, they are enough to risk breaching rigorous drinking water standards so we want to work with farmers, growers and land managers to take action to address this issue together.

“Even the most organised of land managers can find themselves with an out of date or now unlicensed product which can be difficult or expensive to dispose of correctly. To help them, we are launching a free ‘no questions asked’ disposal scheme to safely take away any unwanted pesticides and herbicides. 

“We know that pesticides form an essential and everyday role in the agricultural community. However, if stored, used or disposed of incorrectly, they can have a devastating impact on people, water and wildlife. By providing this free and confidential scheme across Wales, we want to work with land managers to reduce the risk of pollution and safeguard raw water quality before it reaches our water treatment works.” 

Minister for Environment, Energy and Rural Affairs, Lesley Griffiths, said:  “This is a great initiative by Dwr Cymru and I encourage all farmers, growers and land managers to register for the free pesticide disposal scheme. Minimising the impact of pesticides on the environment is an essential part of responding to the ecological crisis, protecting Wales’ watercourses for future generations.“

The scheme is available throughout Wales, not just Welsh Water’s operating area. It is completely confidential and available for a limited time on a first come, first served basis. 

To register, visit www.dwrcymru.com/disposalscheme or call 01443 452716 by no later than 5pm on Monday 30th September 2019. Your details will be securely transferred to Welsh Water’s appointed hazardous waste contractor who will contact you for further details before collecting your unwanted pesticides and herbicides on a pre-arranged date. 

Terms and conditions apply and are available here.

This project has received funding through the Welsh Government Rural Communities – Rural Development Programme 2014-2020, which is funded by the European Agricultural Fund for Rural Development and the Welsh Government.

 
 
14/08/2019
 

Dŵr Cymru’n lansio cynllun gwaredu plaladdwyr cyfrinachol ac am ddim er mwyn amddiffyn ansawdd dŵr yfed

  • Cynllun gwaredu plaladdwyr am ddim ar gyfer ffermwyr, tyfwyr a rheolwyr tir ledled Cymru
  • Bydd cynllun cyfrinachol Dŵr Cymru’n diogelu ansawdd dŵr yfed cyn i’r dŵr gyrraedd gweithfeydd trin dŵr 
  • Gellir cofrestru tan 30 Medi a chynigir lleoedd ar sail y cyntaf i’r felin 

Mae Dŵr Cymru wedi agor cyfnod cofrestru i ffermwyr, tyfwyr a rheolwyr tir yng Nghymru waredu unrhyw blaladdwyr a chwynladdwyr nad oes ei heisiau fel rhan o’i brosiect cyfrinachol ac am ddim, sef PestSmart. 

Mae PestSmart yn annog pobl ledled Cymru i ystyried dulliau ‘doethach’ o reoli chwyn, plâu a chlefydau nad ydynt yn effeithio ar bobl, dŵr na bywyd gwyllt. 

Esbonia Ian Christie, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau Dŵr, Dŵr Cymru: 

“Mae ein rhaglen arferol o fonitro dŵr heb ei drin wedi canfod mwy a mwy o olion o blaladdwyr mewn ardaloedd lle nad ydym wedi eu gweld o’r blaen. Er bod y lefelau hyn yn rhy isel i achosi risg i’r rhai sy’n yfed y dŵr, maent yn ddigon i fod mewn perygl o dorri safonau dŵr yfed llym, felly rydym am weithio gyda ffermwyr, tyfwyr a rheolwyr tir er mwyn cymryd camau i fynd i’r afael â’r mater hwn gyda’n gilydd.

“Gall hyd yn oed y rheolwyr tir mwyaf trefnus weld bod ganddynt gynnyrch hen neu sydd heb drwydded erbyn hyn y gall fod yn anodd neu’n ddrud i’w waredu yn y ffordd gywir. Er mwyn eu helpu, rydym yn lansio cynllun gwaredu cyfrinachol ac am ddim i waredu unrhyw blaladdwyr a chwynladdwyr nad oes ei heisiau yn ddiogel. 

“Rydym yn gwybod bod gan blaladdwyr rôl hanfodol bob dydd yn y gymuned amaethyddol. Fodd bynnag, os na chânt eu storio, eu defnyddio na’u gwaredu’n gywir, gallant gael effaith ddychrynllyd ar bobl, dŵr a bywyd gwyllt. Drwy ddarparu’r cynllun cyfrinachol am ddim hwn ledled Cymru, rydym am weithio gyda rheolwyr tir er mwyn lleihau’r risg o lygredd a diogelu ansawdd dŵr heb ei drin cyn iddo gyrraedd ein gweithfeydd trin dŵr.” 

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:   “Mae hon yn fenter wych gan Dŵr Cymru ac rwyf yn annog pob ffermwr, tyfwr a rheolwr tir i gofrestru am y cynllun gwaredu plaladdwyr am ddim. Mae lleihau effaith plaladdwyr ar yr amgylchedd i’r eithaf yn rhan annatod o’r gwaith o ymateb i’r argyfwng ecolegol, gan amddiffyn cyrsiau dŵr Cymru ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. “

Mae’r cynllun ar gael ledled Cymru, nid dim ond yn ardal weithredu Dŵr Cymru. Mae’n gwbl gyfrinachol ac ar gael am gyfnod cyfyngedig ar sail y cyntaf i’r felin. 

Er mwyn cofrestru, ewch i www.dwrcymru.com/disposalscheme neu ffoniwch 01443 452716 erbyn 5pm ddydd Llun 30 Medi fan bellaf. Bydd eich manylion yn cael eu trosglwyddo’n ddiogel i gontractwr gwastraff peryglus penodedig Dŵr Cymru a fydd yn cysylltu â chi i gael rhagor o fanylion cyn casglu eich plaladdwyr a chwynladdwyr nad oes ei heisiau ar ddiwrnod a drefnir ymlaen llaw. 

Mae telerau ac amodau yn gymwys ac maent ar gael ar wefan Dŵr Cymru.

Mae’r prosiect hwn wedi cael cyllid drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. 

 

Registration